Action for Children - Gweithredu dros Blant

Ymateb i:

Galwad Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru

am wybodaeth cyn cyllideb 2012-13

 

 

Mae Action for Children – Gweithredu dros Blant yn gweithio â rhai o’r plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed, a’u teuluoedd.

Byddwn yn dathlu ein canmlwyddiant yng Nghymru yn 2011. O ddechreuadau bychain, erbyn hyn ni yw’r darparwyr gwasanaethau plant mwyaf yng Nghymru.

 

Cred Action for Children – Gweithredu dros Blant na ddylai dim un plentyn yng Nghymru gael ei esgeuluso, deimlo nad oes ganddo gyfraniad i’w wneud nac nad oes neb ei eisiau.

 

Rydym yn croesawu gwahoddiad y Pwyllgor Cyllid i gyflwyno gwybodaeth cyn i’r gyllideb ddrafft ar gyfer 2012/13 gael ei llunio. Mae ein hymateb yn seiliedig ar yr egwyddor o amddiffyn a gwella bywydau’r plant, pobl ifanc a theuluoedd mwyaf difreintiedig ac sy’n profi’r esgeulustod mwyaf yn ein cymdeithas.

 

Mae Action for Children – Gweithredu dros Blant yn cydnabod y pwysau ariannol a brofir wrth lunio cyllidebau, ac sy’n deillio o amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth Cymru. Rydym hefyd yn cydnabod y cyfleoedd sydd ar gael, gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael, i Lywodraeth Cymru barhau i weithio â Llywodraeth Leol ac asiantaethau a phartneriaid eraill i ddiwygio ac ailddylunio gwasanaethau i’w gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol.

 

Cred Action for Children – Gweithredu dros Blant y dylai Llywodraeth Cymru barhau i roi blaenoriaeth i wariant sy’n arwain at well deilliannau i blant a phobl ifanc, ac sy’n adeiladu cymdeithas iachach a dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru.

 

Dylai blaenoriaethau gwariant gynnwys mwy o bwyslais ar:

 

Drawsnewid bywydau drwy wasanaethau ymyrraeth gynnar

 

Profwyd fod ymyrryd yn gynnar ym mywyd plentyn yn fwy cost effeithiol a mwy llwyddiannus yn y tymor hir na dibyniaeth ar wasanaethau adferol costus. (Gweler Atodiad A Backing the Future). I sicrhau ymyrraeth gynnar lwyddiannus, rhaid rhoi mwy o bwyslais ar asesiad cynnar cyffredinol o iechyd a lles emosiynol y plant a’r bobl ifanc a chomisiynu gwasanaethau i ddiwallu’r anghenion hynny.

 

Credwn y dylid blaenoriaethu cyllid i alluogi pob rhan o Gymru i gael mecanweithiau ar waith i ganfod yn gynnar y plant hynny sydd mewn perygl o gael eu hesgeuluso a rhai sy’n cael eu hesgeuluso, i alluogi gwasanaethau ymyrraeth gynnar i gael eu comisiynu’n effeithiol i roi diwedd ar cylchoedd amddifadedd ac esgeulustod sy’n ymestyn o un genhedlaeth i’r nesaf.

 

Er enghraifft, rydym yn croesawu’r bwriad i ehangu’r rhaglen Dechrau’n Deg ac yn galw am adnoddau digonol i’w chynnal.

 

Er ei bod yn hanfodol bod hawliau’r plentyn fel unigolyn yn parhau’n elfen ganolog o’r polisi ar gyfer plant a phobl ifanc, rydym yn croesawu’r pwyslais a roddwyd ar deuluoedd mewn cyllidebau a rhaglenni diweddar fel Teuluoedd yn Gyntaf.

 

Mae rhieni a theuluoedd, o bob math, yn hanfodol i sicrhau iechyd, hapusrwydd a lles cyffredinol plant a phobl ifanc. Maent yn haeddu cymorth cyn gynted â phosibl i sicrhau bod teuluoedd yn cael pob cyfle i ffynnu. Rhaid gwneud mwy i ddatblygu mynediad i bawb at wasanaethau sy’n helpu rhieni i deimlo’n hyderus bod eu plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, beth bynnag yw eu sefyllfa ariannol.

 

 

 

 

Cynnal a datblygu seilwaith cymunedol i ymestyn adnoddau ymhellach

 

Rhaid i wariant cyfalaf a refeniw hwyluso’r gwaith i gwella seilwaith cymunedol (megis canolfannau plant integredig, canolfannau cymuned, ysgolion bro, canolfannau ieuenctid a hamdden) i wneud gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles a gwasanaethau cefnogi teuluoedd yn addas i’r diben ac yn hygyrch i bawb.

 

Mae gwasanaethau sefydlog, sy’n gweithredu yng nghalon y gymuned ac sy’n hygyrch i bawb, yn allweddol i wella deilliannau, i alluogi gwaith arloesol, sy’n aml yn cael ei ystyried fel risg uwch gan wasanaethau sy’n goroesi ar delerau tymor byr.

 

 

Dylunio gwasanaethau sy’n addas ar gyfer y dyfodol

 

Rhaid i’r broses o gomisiynu gwasanaethau fod yn gymhelliad i sicrhau eu bod yn cael effaith dymor hir. Rydym yn croesawu datblygiadau rhaglenni megis Teuluoedd yn Gyntaf i ddarparu ffrydiau cyllido pum mlynedd.

 

Fodd bynnag, rhaid i gyllid grant ystyried ymarferoldeb newid rhaglenni i sicrhau pontio esmwyth fel rhan o’r gwaith o weithredu polisi. Mae defnyddwyr gwasanaeth yn gwerthfawrogi cysondeb ac mae angen cydnabod hyn yn ystod cyfnodau o newid. (Gweler Atodiad B Developing Effective Professional Relationships)

 

Rhaid i wasanaethau hefyd allu dangos yr effaith maent yn ei chael, gan alluogi comisiynwyr i weld lle gellid gwneud arbedion drwy fuddsoddi ac ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau ymyrraeth gynnar sy’n gwneud gwahaniaeth, sy’n gwella bywydau ac sy’n osgoi ymyriadau costus yn ddiweddarach.

 

Pwyslais ar Ddeilliannau

 

Rhaid i awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol fod yn atebol am ganfod angen a darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar sy’n gweithio.

 

Rydym yn croesawu’r ymrwymiad i ddulliau sy’n seiliedig ar ddeilliannau. Mae Action for Children – Gweithredu dros Blant yn gweithredu fframwaith sy’n seiliedig ar ddeilliannau sy’n defnyddio’r fethodoleg Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau (RBA) (sy’n adlewyrchu’r Saith Nod Craidd yng Nghymru) i ddangos y gwahaniaeth y mae ei wasanaethau’n ei wneud i fywydau a chyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc. Ceir copi o’r fframwaith hwn yn Atodiad C ac mae adroddiad ar effaith ein gwasanaethau yn Atodiad D.

 

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau fod fframwaith deilliannau ystyrlon a chynhwysfawr yn cael ei ddatblygu i hwyluso gweithredu polisi a gyrru darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ar draws pob adran o’r Llywodraeth, Llywodraeth Leol ac asiantaethau statudol eraill. Mae nifer o awdurdodau lleol eisoes yn defnyddio RBA i gyflawni deilliannau poblogaeth leol ac felly mae bwriad y Llywodraeth i ddefnyddio’r fethodoleg hon yn rhywbeth i’w groesawu.

 

Dylai deilliannau ar boblogaeth lefel Cymru gael eu hategu gan set eglur a chynhwysfawr o ddangosyddion poblogaeth, i hwyluso cydweithredu i gyflawni amcanion cyffredin, a mesuriadau perfformiad i alluogi gwasanaethau i ddeall pa mor effeithiol yw eu gwaith i gyflawni’r amcanion hyn.

 

Mae’n hanfodol bod y fframwaith yn cynnwys y deilliannau cywir ar gyfer Plant a Phobl Ifanc. Mae’r Saith Nod Craidd yn sail i’r fframwaith gan ei fod yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, ac mae’n rhaid iddo roi sylw i iechyd, hapusrwydd a lles emosiynol, diogelwch, cyflawniad addysgol a sgiliau byw, perthnasoedd positif a hawliau’r plentyn. Yn ogystal â hyn, ni ddylai dim un plentyn yng Nghymru gael ei esgeuluso ac ni ddylai’r un plentyn yng Nghymru fyw mewn tlodi.

 

Mae cydberchnogaeth deilliannau a dangosyddion poblogaeth yn hanfodol i sbarduno darpariaeth, yn ogystal ag atebolrwydd. Dylid sicrhau cyfrifoldeb sefydliadol ar y cyd ac yn unigol ar gyfer darpariaeth ac atebolrwydd i’r ddyletswydd hon, yn enwedig o ran darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar.

 

Cefnogi cydweithredu

 

Mae Action for Children – Gweithredu dros Blant wedi hen gydnabod buddiannau cydweithredu â chydweithwyr yn y trydydd sector, llywodraeth leol ac ag asiantaethau eraill.

 

Ar hyn o bryd, mae angen eglurder pellach ar sut, lle a phryd y dylai awdurdodau lleol ac asiantaethau lleol fod yn cydweithredu ar draws ffiniau daearyddol a sefydliadol, i alluogi partneriaid i gymryd rhan ac i gefnogi’r broses hon. Mae’r sefyllfa’n fwy dyrys wrth ystyried materion sydd heb ei datganoli, megis trosedd a chyfiawnder.

 

Y ffordd orau o sicrhau cydweithrediad yw drwy sicrhau negeseuon eglur ynghylch deilliannau a’r hyn y gobeithir ei gyflawni drwy gydweithio – er y gall arwain at arbedion, y cwestiwn mawr yw a fydd yn gwella gwasanaethau.

 

Gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo i hwyluso cydweithredu drwy ddarparu fframwaith deilliannau sy’n galluogi mudiadau i ystyried pwy ddylai fod yn cydweithio, i gyflawni pa ddeilliannau (gan gynnwys arbedion a gwella gwasanaethau).

 

Credwn y dylai asiantaethau lleol ym mhob ardal allu cynnal asesiadau o anghenion strategol ar y cyd, a gefnogir gan fecanweithiau i sicrhau y gellir cyfuno cyllidebau ar gyfer comisiynu gwasanaethau’n strategol ar y cyd i ddiwallu’r angen.

 

Fodd bynnag, mae angen strwythurau ategol i gefnogi penderfyniadau strategol ac er ein bod yn croesawu bwriadau i alinio a symleiddio gweithio mewn partneriaeth, mae cwestiynau’n codi ynghylch dyfodol partneriaethau Plant a Phobl Ifanc fel rhan o’r rhesymoli cyfredol. Sut, a phwy fydd yr arweinwyr strategol yr ymgysylltir â hwy i oleuo penderfyniadau? Sut un fydd y seilwaith newydd a fydd yn ategu BGLlau a sut all partneriaid, megis y trydydd sector, ymgysylltu?

 

Bydd ystyried y materion hyn, adnoddau priodol (gan gynnwys costau tymor byr sy'n gysylltiedig â diwygiadau ac ailgyflunio sefydliadol) ac amserlenni synhwyrol yn caniatáu i bob partner yng Nghymru gydweithio i wella sut mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu, i symud at gymdeithas lle nad oes plant na phobl ifanc o Gymru’n dioddef canlyniadau esgeulustod.